Cwmni sy'n cynhyrchu ac yn dosbarthu rhaglenni yn rhyngwladol yw
Grŵp Tinopolis. Yn y DU mae'n un o'r cyflenwyr teledu
annibynnol mwyaf i'r prif ddarlledwyr. Rydym yn gweithio ym
mhob maes - ffeithiol, adloniant, chwaraeon, drama a'r cyfryngau
digidol. Caiff ein rhaglenni eu gweld ar draws y byd, a thrwy
ein cwmnïau dosbarthu mae gennym bresenoldeb pwysig yn y farchnad
gyfryngau fyd-eang. Yn yr UDA, rydym yn cynhyrchu rhaglenni
teledu i bob un o'r prif rwydweithiau.
Daw rhai o'r enwau uchaf eu parch yn y sector cynhyrchu teledu
ynghyd drwy'r Grŵp. Mentorn Media yw cynhyrchydd ffeithiol
mwyaf profiadol y DU. Sunset + Vine yw'r cynhyrchydd
chwaraeon annibynnol mwyaf blaenllaw. Enillodd Daybreak
wobrau lu am eu dramâu ac mae gan Pioneer Productions enw da dros y
byd am raglenni ffeithiol arbenigol sy'n torri tir newydd.
Tinopolis Cymru/Wales yw cwmni teledu annibynnol rhanbarthol mwyaf
y DU. Yn yr Unol Daleithiau, mae A.Smith and Co. yn arwain y
farchnad mewn adloniant ffeithiol ac mae BASE Productions yn gwneud
rhaglenni ffeithiol ac adloniant ffeithiol sy'n arloesi yn y
maes.
Mae'r Grŵp wedi buddsoddi'n drwm yn y cyfryngau newydd.
Gallwn gynnig cefnogaeth rhaglenni aml-blatfform, yn ogystal ag
adnoddau digidol i'r sectorau corfforaethol ac addysg.